![]() |
Rydym yn arbenigo mewn meysydd ffermio a busnesau bach. Gallwn wneud yn siwr eich bod yn cydymffurfio a'ch gofynion treth incwm, yn ogystal a darparu gwybodaeth bwysig i sicrhau eich anghenion busnes. Os ydych yn ystyried dechrau menter busnes newydd, dewch i'n gweld i drafod yr amryw o wahanol agweddau fydd yn effeithio arnoch - llif arian, cynlluniau busnes, trethi ac yswiriant cenedlaethol. |
![]() |
A oes ad-daliad treth yn daladwy i chi? Fe allwch gael cyfweliad yn rhad ac am ddim. Does dim i'w golli. I bob un sydd yn talu treth ac yn derbyn ffurflen dreth hunan-asesiad, gadewch i ni ofalu am y trefniadau er mwyn i chi gael cysgu'n dawel |
![]() |
Dyma'r oes dechnolegol. Fe all eich busnes ddefnyddio'r dechnoleg hyn i achub mantais dros y gystadleaeth. Gallwn roi cymorth am raglenni cyfrifon cyfrifiadurol yn benodol u'ch anghenion. |
![]() |
Yn ystyried gwerthu neu drosglwyddo asedion? Fe allwn rhoi cymorth i chi osgoi y peryglon. Gall ein cyngor ostwng neu osgoi y problemau trethiant posib. |
![]() |
Gallwn drefni ffurfio cwmniau newydd, ynghyd a threfni yr ochr weinyddol angenrheidiol. Yr ydym hefyd yn darparu gwasanaeth archwilio ar gyfer cwmniau ac elusennau o bob maint. |
![]() |
Gadewch i ni gymryd y straen gwaith Treth ar Werth a thalu cyflogau (PAYE). Gallwn wneud y gwaith drostoch. Yr ydym hefyd yn delio gyda gwaith ymchwilio treth incwm, TAW a Thalu Wrth Ennill. |





