![]() |
Mae gan Dai Davies (ACA) flynyddoedd o brofiad yn y byd cyfrifyddiaeth ar ôl iddo gymhwyso fel Cyfrifydd Siartedig ym 1979 a rhedeg ei gwmni ei hun ers 1992. Wedi rhedeg fferm y teulu, mae Dai yn deall y sialens a'r cyfleoedd sydd ym myd busnesau bach heddiw, yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig. Mae Dai, yn ogystal a bod yr uwch bartner o'r cwmni, yn aelod parchus o'r gymuned leol. |
| Ymunodd John Evans (ACCA) â'r cwmni ym 1994 ar ol gweithio gyda chwmni arall yng Nghaerfyrddin am saith mlynedd. Cymro ydy John ac mae'n fab i ffarmwr. Mae ganddo wybodaeth eang am amaethyddiaeth a materion ffermio. Mae gan John brofiad o ddelio gyda masnachwyr a chyfrifon partneriaid. | ![]() |
![]() |
Ymunodd Julian Harries (FCCA) a'r cwmni ym mis Medi 1993 yn fuan ar ôl iddo gymwysoli fel Cyfrifydd Siartedig Ardystiedig. Eto, mae Julian yn fab i ffarmwr. Cyn ymuno roedd yn gweithio gyda chwmni bach yn Hwlffordd a Phenfro am dair mlynedd. Mae ganddo brofiad â chwmniau cyfyngedig a gwaith archwilio. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth cynghorol yn ymwneud â systemau gwybodaeth dechnolegol. |


